Lleoliad
Felly, ble yn union fydd y Ddraig? Mae’r tŵr mewn llecyn arbennig. Yn sefyll yn falch wrth y porth i Gymru o’r dwyrain, mae’r lleoliad ar bwys yr A5. Hwn oedd llwybr hynafol y goets fawr rhwng Cymru a Lloegr am flynyddoedd lawer, yr holl ffordd o Lundain i ben y daith yng Nghaergybi.Mae’r ffordd hon yn cynrychioli cyfnewidfa ddiwylliannol a rhannu syniadau ac ysbrydoliaeth. Mae hefyd yn cynnig cyfle i nodi’r fynedfa i Gymru a’i diwylliant unigryw, gyda golygfeydd nodedig ar draws Gogledd Cymru a’r Gororau.


