Tweets y Ddraig

  • Llwytho Twitter Feed...

Danysgrifio at ein Cylchlythyr



Cyfleusterau

Siop Anrhegion
Bwriad y siop anrhegion yn y tŵr yw bod yn gwpwrdd gwydr i rai o’r anrhegion gorau. Mae’n bwysig osgoi ‘anrhegion Cymreig’ di-chwaeth fel dreigiau gwlanog a merched Cymreig mursennaidd! Ein nod yw gwerthu rhai o’r anrhegion mwyaf ystyriol a hardd y gallwn gael gafael arnynt yn y Genedl. Mae artistiaid a gwneuthurwyr Cymreig ymysg y gorau yn y byd a byddem yn hoffi’n fawr iawn cynnig cartref iddynt dan adenydd ein Draig.
Os hoffech gofrestru’ch diddordeb cynnar mewn unrhyw agwedd ar y safle, cofiwch gysylltu â ni.

Bwyty’r Mabinogi
Bwyty ‘cyrchfan’ gyda thro Cymreig bywiog. Bydd deunyddiau lleol yn golygu mai dim ond y gorau oll o gynnyrch Cymru sy’n cyrraedd y bwrdd yma. Bydd y pwyslais yn gadarn ar fwyd Cymreig cyfoes, gan dynnu ynghyd nid yn unig olwg newydd ar seigiau Cymreig traddodiadol, ond hefyd anturiaethau rhyfeddol a chyffrous mewn coginio Cymreig newydd.

Caffi / Bar
Ardal ymlaciol ac anffurfiol, yn gweini amrywiaeth o dameidiau wrth y bar a diodydd wedi’u paratoi’n ofalus – i gyd o gynnyrch lleol. Ffres, golau ac ysbrydoledig bydd y caffi / bar yn prynu’n foesol ar bob lefel ac yn ymdrechu i ailddefnyddio, ailgylchu a lleihau gwastraff.

Oriel Gelf

Mae cyfleoedd yma i artistiaid a gwneuthurwyr o bob rhan o Gymru arddangos eu gwaith mewn amgylchedd cryf a chefnogol. Un o’r agweddau pwysicaf yn swyddogaeth ‘Deffro’r Ddraig’ yn y dyfodol fydd hybu a galluogi i artistiaid arddangos yng Nghymru, mewn amgylchedd diwylliannol cefnogol gyda sail ymwelwyr sy’n gryf a ffyddlon.

Gerddi / Parciau Cerfluniau
Bydd y tiroedd o gwmpas y tŵr yn cael eu tirlunio ac yn llawn cyfaredd a diddordeb – bydd llwybrau ffurfiol ac anffurfiol dan gysgod coed derw. Yn cynrychioli pedair cainc y Mabinogi a’r chwedlau gwerin gwych sydd ynddynt, bydd yr ardal hon yn lloches dawel gyda digwyddiadau rheolaidd a gweithgareddau awyr agored eraill yn cael eu trefnu.

I gysylltu â ni, cliciwch YMA

Newyddion Diweddaraf

Mae gennym gwefan newydd!
Awduron iaith Gymraeg sydd eu hangen. Cysylltwch brett@fotofire.com am mwy Darllen erthygl llawn
Yr £1 a Mwy Apêl
Taniwch rym y ddraig gyda rhodd o ddim ond punt a dod yn rhan o hanes. Dychmygwch beth allwn ni gyflawni gyda dim ond punt o rodd gan bawb sy'n Gymry! Mae'r posibiliadau'n ddi-ben-draw ac mae grym y ddraig yn eich dwylo chi!
RBS WorldPay | Visa | MasterCard | Maestro | JCB | Solo