Amdan y Ddraig
Mae’r Ddraig yn gymysgedd unigryw o ragoriaeth elusennol, diwylliant, addysg a Chwedloniaeth Gymreig. Cyfuniad sy’n creu’r ganolfan ymwelwyr fwyaf datblygedig ym Mhrydain. Yn hyrwyddo’r gorau oll o Gymru, gyda cherflun eiconig o’r Ddraig Goch wrth ei galon, a champ fawr fydd yn codi arian at wasanaethau canser Gogledd Cymru.
Apêl canser Frank Wingett, swyddogion ac aelodau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Croeso Cymru yw arweinwyr y prosiect.
Mae’r prosiect yn gyffredinol ond, mewn gwirionedd, dylid ei weld yn unig fel Porth / Tirnod annibynnol ar y fynedfa hanesyddol i Gymru.
Mae delweddau cyfrifiadurol yn dangos gwir faint y ddraig ac mae modd ei chymharu â’r Statue of Liberty, Crist yn edrych dros Rio de Janeiro.
Gyda thwristiaeth fel un o’r ychydig ddiwydiannau sy’n tyfu yng Nghymru, dylai’r Ddraig ddod yn arweinydd yn y farchnad ac ennill parch twristiaeth ledled y byd.
Y Ddraig fydd wythfed rhyfeddod Cymru. Eicon hysbys ledled y byd yn ennyn diddordeb gwledydd y ddraig o’r dwyrain i ganolbwynt Gogledd Cymru, ei diwydiannau, masnach a diwylliant. Mae’r prosiect yn cyflawni ar bob lefel, mentrau ar y cyd, twristiaeth, nawdd, Cyflogaeth, buddsoddiad a rhagoriaeth ddiwylliannol. Adeiladwyd gan y Cymry ar gyfer y Cymry yn y frwydr yn erbyn canser. Bydd pob cam wrth ddringo’r Ddraig yn dod ag arian i roi gwell ansawdd bywyd i ddioddefwyr canser Gogledd Cymru. Daw gofynion y ganolfan oddi wrth gronfa fuddsoddi unigol Croeso Cymru, Cyllid Cymru, Banc National Westminster, buddsoddwyr, banciau masnachol, apêl canser Frank Wingett, nawdd a rhodd cymorth.
Pwy sy’n cymryd rhan?
Simon Wingett a’r tîm
Simon gafodd y syniad, ond pwy sy’n mynd i droi’r syniad yn wirionedd?
Mae tîm cryf sy’n barod i wthio’r prosiect hwn oddi ar y bwrdd dylunio ac ymlaen i’w gwblhau. Dyma pwy ydynt:
Steve Winterburn
Simon Wingett gafodd syniad ‘Deffro’r Ddraig’ a Steve Winterburn a luniodd y syniadau cyntaf ac ef fydd yn creu’r ddraig ei hun wedi’i bwrw o efydd – Gwefan.
Fotofire Limited
Cwmni o Wrecsam a luniodd y wefan hon.
Penseiri TACP
o Wrecsam a Chaerdydd yw’r ymennydd tu ôl i’r cynllunio. Byddant yn troi’r syniadau’n gynlluniau gwaith. Gydag ôl-gatalog cryf o brosiectau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, mae TACP erbyn hyn yn barod i dderbyn y Ddraig.
Pochin Construction
Mwyaf adnabyddus yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd am ei waith adeiladu cyfredol ar adeiladau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghyffordd Llandudno, mae gan Pochin enw da ar hyd a lled y Gogledd a thu hwnt. Pochin fydd yn gwneud y gwaith adeiladu ar y tŵr.
Giffords Engineers


